Dyma nofel hanesyddol uchelgeisiol a hynod ddarllenadwy fydd yn cadw'r darllenydd yn awchu am fwy. Dilynir hanes Cymraes go iawn o'r enw Ann Lewis, merch ifanc o deulu cyffredin o Ddolgellau a gafodd waith mewn siop deiliwr yn y dref cyn i'w chwymp ei chario ar daith gyffrous i ben draw'r byd.